PET(4)-05-11 Papur 12a

P-03-310 Polisïau sy’n helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i feithrin polisi sy’n caniatáu i chweched dosbarth ysgolion gael eu cau, cyhyd â bod y gymuned yn cydsynio â hynny ac yn cefnogi’r penderfyniad. Dylid gwella’r broses ymgynghori i’w gwneud yn fwy cadarn, yn gryfach ac yn haws i’r cyhoedd fod yn rhan ohoni. Dylai’r cyfnod ymgynghori ganiatáu digon o amser i’r cyhoedd gael y wybodaeth angenrheidiol ac i weithredu’n unol â’r wybodaeth honno.

Linc i’r ddeiseb:  http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-310.htm

Cynigiwyd y ddeiseb gan: Mandy Howells

Nifer y llofnodion: 112 (casglwyd 2,119 o lofnodion ar ddeiseb gysylltiedig)

 

Gwybodaeth ategol:

Bwriad y ddeiseb hon yw ceisio adolygu a herio polisi a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu ysgolion, ac yn benodol yn yr achos hwn ar ad-drefnu addysg ôl-16. Rydym eisoes wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar achub y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bryn-mawr. Roedd y rhai a lofnododd y ddeiseb honno yn gwrthwynebu cau chweched dosbarth ysgol sylfaen Bryn-mawr, gan ddweud eu bod am gael dewis. Roedd yn cynnwys 2,119 o lofnodion ac mae hyn yn dangos pa mor gryf y mae’r gymuned leol yn teimlo am y mater hwn.

 

Rydym yn cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru’n llawn, fel y nodwyd mewn deddfwriaeth ddiweddar ar ehangu dewisiadau addysg a hyfforddi. Rydym hefyd yn cefnogi agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru sydd, o’r hyn rydym yn ei ddeall, yn ceisio sicrhau bod ysgolion a cholegau yn cydweithio’n agosach er mwyn ehangu’r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Ym Mlaenau Gwent, rydym hefyd yn cefnogi’r Campws Dysgu newydd. Rydym yn credu y bydd yn gwella’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i boblogaeth y fwrdeistref.

Ein pryder ni yw’r dewis o opsiynau sydd ar gael i blant a phobl ifanc ar gyfer addysg ôl-16. Yn rhy aml, mae’n ymddangos bod polisïau Llywodraeth Cymru yn gorfodi cau’r chweched dosbarth mewn ysgolion ac mae hyn yn arwain at ddileu’r elfen o ddewis o’r opsiynau ar gyfer parhau eu haddysg o 16 oed ymlaen. Rydym yn teimlo’n gryf y dylai pobl ifanc gael yr hawl i aros yn yr ysgol os ydynt yn dymuno gwneud hynny a bod addysg chweched dosbarth yn ddewis gwych i rai pobl. Yn amlwg, bydd rhai’n dewis mynychu coleg chweched dosbarth a dylem gefnogi eu hawl i wneud hynny.

 

Yn ddiweddar, gwrthodwyd cynigion Wrecsam a Rhondda Cynon Taf i gau’r chweched dosbarth mewn ysgolion ac rydym yn credu bod hyn yn adlewyrchu dymuniadau rhieni a chymunedau lleol. Rydym yn gobeithio y bydd y ddeiseb hon yn helpu i ganolbwyntio sylw gwleidyddol ar y materion hyn ac y bydd yn darbwyllo Llywodraeth Cymru i ail-lunio ei chanllawiau a’i pholisïau cyfredol ar gyfer addysg ôl-16. Rydym am weld chwarae teg i ysgolion a cholegau a fydd yn galluogi pob person ifanc i gael dewis o opsiynau o 16 oed ymlaen.

Ar yr un pryd, mae gennym bryderon sylweddol ynghylch pa mor gadarn yw prosesau ymgynghori awdurdodau lleol. Yn ein profiad ni, mae awdurdodau lleol yn ystyried prosesau ymgynghori i fod yn ddim fwy nag ymarferion ticio blychau. Mae angen gosod safonau a disgwyliadau gofynnol i’w cyrraedd gan awdurdodau lleol o ran ymarferion ymgynghori, ac yn yr e-ddeiseb trafodir yr angen i’w gwneud yn fwy cadarn a chryf ac yn haws i’r cyhoedd gael mynediad atynt a chymryd rhan ynddynt.

Hefyd, dylai’r cyfnod ymgynghori roi digon o amser i’r cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth a chymryd camau yn unol â hynny.